Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom Dyddiad: Dydd Iau, 16 Mai 2024
Amser:
09.30 -
10.43
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13896
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Alun Davies AS (yn lle Rhianon Passmore AS) Mike Hedges AS Altaf Hussain AS (yn lle Peter Fox AS) |
|
Tystion: |
Shona Robison ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth yr Alban |
|
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Božo Lugonja (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS a Peter Fox AS.
1.3 Roedd Alun Davies AS yn dirprwyo ar ran Rhianon Passmore AS; ac roedd Altaf Hussain AS yn dirprwyo ar ran Peter Fox AS.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am ei ymchwiliad i Gysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol gan Shona Robison MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth yr Alban.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y papur eglurhaol ac amcangyfrifon atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; a Chomisiwn y Senedd.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Comisiwn y Senedd i sesiwn dystiolaeth ar ei amcangyfrif atodol.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr ynghylch Cyfalaf Trafodion Ariannol.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft am Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) a chytunodd arno heb ddim newidiadau.